Gwisg Ysgol

Mae gwisg ysgol ein hysgol yn helpu i greu ymdeimlad o falchder a pherthyn o fewn cymuned ein hysgol. Isod byddwch yn dod o hyd i fanylion ein gofynion gwisg ysgol a dolenni i gyflenwyr cymeradwy lle gallwch brynu eitemau.

Blynyddoedd 7-11

Crys chwys du, gwddf crwn gyda bathodyn yr ysgol (dim hŵdis neu grysau ymarfer)
Crys polo Penweddig gyda bathodyn yr ysgol
Trowsus du ffurfiol smart (dim leggings neu drowsus tracwisg)
Siorts du wedi’u teilwra’n smart (dim siorts chwaraeon). Dylai disgyblion wisgo trowsus hir wrth sefyll arholiadau allanol
Sgert ddu ffurfiol smart, ¾ hyd at y pen-glin
Sanau plaen
Teits du plaen
Esgidiau du plaen (dim treiners gyda logo, bŵts nac esgidiau cynfas)

6ed Dosbarth

Siwmper/cardigan Penweddig gyda bathodyn yr ysgol
Crys gwyn/du neu flowsen wen/ddu
Tei ysgol

Cit Addysg Gorfforol

Crys-t glas gyda logo’r ysgol
Siorts nefi

Ategolion a Thlysau

Gofynnwn na wisgir colur yn yr ysgol. O ran tlysau, gall disgyblion wisgo un pâr o ‘studs’ bach neu ‘sleepers’ yn y clustiau yn unig. Ni chaniateir tyllu gweladwy arall megis trwyn, aeliau, gwefusau neu dafod.

Grant Hanfodion Ysgol

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol yma i helpu teuluoedd gyda chostau ysgol. Mae ar gael i blant a phobl ifanc sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd), Plant sy’n Derbyn Gofal, a’r rhai nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus o’r flwyddyn dderbyn i Flwyddyn 11.
Mae £125 ar gael ar gyfer pob dysgwr cymwys, gyda £200 i ddysgwyr Blwyddyn 7 newydd (i helpu gyda chostau ychwanegol dechrau yn yr ysgol uwchradd).

Gallwch ddefnyddio’r grant i brynu pethau fel:
Gwisg ysgol, cotiau ac esgidiau
Cit chwaraeon ysgol ac esgidiau chwaraeon
Cyfarpar TG (gliniaduron a thabledi – dim ond pan nad yw’r ysgol yn gallu benthyca offer)
Gwisg ar gyfer grwpiau fel sgowtiaid, geids neu glybiau chwaraeon
Bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu
Cyfarpar arbenigol ar gyfer pynciau fel dylunio a thechnoleg
Dillad ar gyfer teithiau ysgol a gweithgareddau awyr agored
Mae’r cynllun ar gyfer 2024/25 yn rhedeg o 1 Gorffennaf 2024 tan 31 Mai 2025.

Pwy sy’n gymwys?
Teuluoedd sy’n cael prydau ysgol am ddim gyda phlant o’r Derbyn i Flwyddyn 11
Plant sy’n derbyn gofal (beth bynnag eu sefyllfa prydau ysgol)

Cofiwch:
Dim ond unwaith y flwyddyn y gallwch wneud cais ar gyfer pob plentyn
Os nad ydych eisoes yn cael Prydau Ysgol am Ddim, cwblhewch y ffurflen isod gyntaf – byddwn yn ystyried eich Grant Hanfodion Ysgol ar yr un pryd

https://www.ceredigion.gov.uk/resident/schools-education/free-school-meals/