Cefnogaeth Lles

Yn ein hysgol, credwn fod lles pob disgybl yn hanfodol ar gyfer eu hapusrwydd a’u llwyddiant. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel a chefnogol lle gall ein holl ddisgyblion ffynnu’n emosiynol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol.

Mae gan bob blwyddyn Arweinydd Cynnydd a Lles penodol sy’n darparu cymorth bugeiliol ac arweiniad. Gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt ar ein tudalen gyswllt.

Isod byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am ein cymorth llesiant, yr adnoddau sydd ar gael, a sut i gael help pan fo’i angen.

Cefnogaeth Lles a Diogelu

Dydd Llun

Cweithiwr Ieuenctid – Amy Jenkins

Nyrs Ysgol – Hannah Jenkins (galw heibio amser cinio)

Dydd Mawrth

Cweithiwr Ieuenctid – Amy Jenkins

Mentor Porth Cymorth Cynnar – Nerys Lockyer

Swyddog Gyrfaoedd – Angela Jones

Dydd Mercher

Cweithiwr Ieuenctid – Amy Jenkins

Cwnselydd Ysgol – Rhian Davies

Dydd Iau

Cweithiwr Ieuenctid – Amy Jenkins

Cwnselydd Ysgol – Rhian Davies

Swyddog Gyrfaoedd – Angela Jones

Mentor Porth Cymorth Cynnar – Nerys Lockyer

Cwnsela yn yr ysgol

Hunan atgyfeirio ar-lein drwy wasgu ar y fotwm.

Gwefan y Sir

Diogelu a Cham-drin Domestig – Cyngor Sir Ceredigion

Cefnogaeth Lles

PC Hannah Evans – Swyddog Heddlu Ysgolion Ceredigion

Tîm o Amgylch y Teulu a Gwasanaeth Teuluoedd Ceredigion Families

Credu – gwasanaeth cefnogi Gofalwyr Ifanc

Schools in Reach – cyswllt ysgolion CAMHS

West Wales Domestic Abuse Service – gwasanaeth arbenigol i ddisgyblion sy’n ddioddefwyr neu dyst i drais domestig. Maent yn gweithio gyda disgyblion i hyrwyddo perthnasu iach â chyfoedion.

Choices / Barod – gwasanaeth arbenigol i ddisgyblion sy’n defnyddio sylweddau ac hefyd codi ymwybyddiaeth er wyn atal y defnydd o sylweddau.

Grant Datblygu Disgyblion (PDG)

Yn Ysgol Gyfun Penweddig, defnyddir y Grant Datblygu Disgyblion (PDG) i gefnogi disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn sawl ffordd. Mae hyn yn cynnwys cynnig gostyngiad o 50% ar bob trip ysgol, darparu offer ysgol hanfodol megis beiro a deunydd ysgrifennu, a byrbrydau brecwast ar gael o Hafan. Mae cymorth emosiynol hefyd ar gael i helpu disgyblion i deimlo’n ddiogel, wedi’u cefnogi, ac yn barod i ddysgu.

Datganiad Strategaeth PDG

Prydau Ysgol am Ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy’n mynychu ysgolion, yn llawn amser, a reolir gan Awdurdod Addysg Ceredigion.*

Mae hyn yn cynnwys:

  • Plant iau sy’n mynychu diwrnodau llawn (oed 4+)
  • Disgyblion y chweched dosbarth

Mae’n bosibl y gall ddisgybl gael prydau bwyd am ddim os yw ei riant neu warcheidwad (hynny yw, y person sydd a gofal am y plentyn) yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • o 1 Ebrill 2019, Credyd Cynhwysol – ar yr amod nad yw incwm net blynyddol1 eich cartref yn fwy na £7,400 (fel yr aseswyd yn ôl enillion o hyd at dri o’ch cyfnodau asesu mwyaf diweddar)

1 Diffinnir incwm net fel incwm y cartref ar ôl trethi a didyniadau. Nid yw’n cynnwys incwm o Gredyd Cynhwysol na budd-daliadau eraill.

Os yw eich plant yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm, Cymorth Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm eu hunain, mae’n bosibl y gallent gael prydau ysgol am ddim hefyd.

* Mae pob disgybl llawn-amser sy’n mynychu’r sector cynradd yng Ngheredigion wedi cael hawl awtomatig i Brydau Ysgol am ddim (UPFSM) ers mis Medi 2023.

Noder os yw’ch plentyn/plant yn mynychu’r blynyddoedd penodedig yma, ac yr ydych am dderbyn taliad y Grant Hanfodion Ysgol, fe fydd dal angen i chi gwblhau ffurflen gais am Brydau Ysgol am Ddim. Fe ddylech hefyd adael i’r ysgol wybod yn uniongyrchol os yw eich plentyn, neu blant, am dderbyn pryd am ddim bob dydd, neu os ydynt am ddod â chinio eu hunain.

Ceisiadau

Yn y lle cyntaf, cwblhewch y ffurflen gais.

Dechrau Nawr

Ffyrdd eraill o wneud cais

Cysylltwch â’r Awdurdod Lleol ar 01545 570 881 er mwyn cwblhau cais dros y ffôn neu ymweld ag un o’n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Gwneir gwiriadau cychwynnol a pharhaus i gadarnhau eich cymhwysedd gan ddefnyddio’ch Rhif Yswiriant Cenedlaethol a’ch Dyddiad Geni, dylid cwblhau’r rhain yn awtomatig unwaith y bydd eich cais wedi’i brosesu a’i gymeradwyo.

Lle bo gwiriadau’n amhosibl neu’n amhendant, gofynnwn ichi ddarparu prawf dogfennol.

Newidiadau yn eich Amgylchiadau

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, yna bydd angen ichi hysbysu’r Awdurdod Lleol ar unwaith. Os bydd hawlwyr yn methu â hysbysu’r Awdurdod o’r newidiadau sy’n effeithio ar deilyngdod eu plant i brydau ysgol am ddim, ceidw’r Awdurdod yr hawl i gymryd camau priodol. Noder, na fydd pob newid yn arwain at unrhyw newidiadau i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim oherwydd Amddiffyniad wrth bontio.

Beth yw ‘Amddiffyniad wrth bontio’?

Ar 1 Ebrill 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reolau newydd ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim. Oherwydd hyn, gallai nifer gymharol fach o blant a phobl ifanc fod wedi colli eu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Cyflwynwyd “amddiffyniad wrth bontio” (Transitional Protection / TP) er mwyn sicrhau bod y plant a’r bobl ifanc hyn yn parhau i gael prydau ysgol am ddim am gyfnod cyfyngedig o amser.

Gellir crynhoi amddiffyniad wrth bontio fel a ganlyn:

  • Bydd unrhyw blentyn neu berson ifanc a ddaeth yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Rhagfyr 2023, yn parhau i fod yn gymwys tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn yr ysgol (h.y. boed yn addysg gynradd neu’n addysg uwchradd)
  • TP will not be extended to claimants who are not on Universal Credit or legacy benefits, and are therefore unaffected by the change in free school meals eligibility criteria

O 1 Ionawr 2024, ni fydd unrhyw ddisgyblion newydd yn gymwys i TP, er gallai rhai aelodau o’r un teulu fod yn barod.

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, ewch i’w tudalen Bwyd a diodydd mewn ysgolion.