Cyfadran Diwydiannau Creadigol
Celf
Ym mlwyddyn 7-9, mae disgyblion yn datblygu eu creadigrwydd drwy archwilio ystod eang o dechnegau megis arlunio, peintio, gwaith clai a dylunio. Maent yn dysgu am artistiaid cyfoes a hanesyddol, gan ddatblygu sgiliau arsylwi, cynllunio, mynegi syniadau a gwerthuso. Mae prosiectau’n cysylltu â themâu diwylliannol a chymdeithasol, gan feithrin hunanfynegiant a hyder.
Mae’r cwrs TGAU Celf a Dylunio yn annog disgyblion i ddatblygu eu syniadau’n bersonol drwy broses greadigol o ymchwilio, arbrofi, myfyrio a chyflwyno. Maent yn gweithio ar bortffolio a thasg benodol allanol, gan ddefnyddio cyfryngau traddodiadol a digidol. Mae’r cwrs yn meithrin sgiliau beirniadol, technegol a chyd-destunol, gan baratoi disgyblion ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfaoedd creadigol.
Yn y cwrs Lefel A, mae disgyblion yn dilyn llwybr personol drwy ymchwiliad creadigol a thasg allanol. Maent yn datblygu dealltwriaeth fanwl o gyd-destunau artistig, yn arbrofi gyda deunyddiau ac yn cyflwyno ymatebion ystyrlon a soffistigedig. Mae’r cwrs yn meithrin meddwl beirniadol, sgiliau technegol uwch a gallu i gyfathrebu syniadau’n effeithiol, gan baratoi ar gyfer addysg uwch neu fyd gwaith.
Cerddoriaeth
Yn yr Adran Gerdd, mae disgyblion yn datblygu eu sgiliau cerddorol drwy berfformio, cyfansoddi a gwrando ar gerddoriaeth amrywiol. O Flwyddyn 7 i Flwyddyn 9, mae’r ffocws ar feithrin hyder, creadigrwydd a dealltwriaeth o elfennau cerddorol megis rhythm, melodi, harmoni a threfniant. Mae disgyblion yn dysgu sut i fynegi syniadau cerddorol, datblygu eu sgiliau technegol ar offerynnau ac archwilio dulliau cyfansoddi. Trwy wrando’n feirniadol ar gerddoriaeth o wahanol ddiwylliannau a chyfnodau, maent yn meithrin gwerthfawrogiad eang o’r byd cerddorol ac yn dysgu sut i adlewyrchu ar eu gwaith eu hunain a gwaith eraill.
Yn y TGAU, mae disgyblion yn perfformio, cyfansoddi ac yn gwerthuso cerddoriaeth. Maent yn creu cyfansoddiadau gwreiddiol, yn perfformio ar offerynnau neu lais, ac yn astudio gweithiau gosod gan gyfansoddwyr amrywiol. Mae’r cwrs yn datblygu sgiliau technegol, creadigol ac adlewyrchol, gan gynnwys defnyddio technoleg gerddorol a dealltwriaeth o gyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol.
Mae disgyblion Lefel A yn arbenigo ymhellach mewn perfformio neu gyfansoddi, gan astudio genres fel Jazz a Theatr Gerdd. Maent yn datblygu dealltwriaeth fanwl o ffurfiau cerddorol, dadansoddiad o weithiau gosod, a sgiliau beirniadol. Mae’r cwrs yn paratoi disgyblion ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa ym maes cerddoriaeth.
Drama
Ym mlwyddyn 7,8 a 9, mae disgyblion yn datblygu hyder, creadigrwydd a sgiliau cyfathrebu trwy archwilio amrywiaeth o dechnegau perfformio. Trwy waith unigol, pâr a grŵp, maent yn dysgu sut i greu cymeriadau, defnyddio iaith gorfforol ac archwilio themâu perthnasol. Mae’r cwricwlwm yn meithrin sgiliau gwrando, cydweithio a hunanfynegiant, gan osod sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach. Mae disgyblion hefyd yn cael cyfle i fyfyrio ar eu gwaith a datblygu sgiliau gwerthuso, gan feithrin dealltwriaeth o broses greadigol y theatr.
Mae’r cwrs TGAU Drama yn datblygu sgiliau perfformio, dylunio a dadansoddi trwy waith ymarferol a damcaniaethol. Mae disgyblion yn creu a pherfformio gwaith gwreiddiol, yn archwilio testunau theatrig ac yn dadansoddi perfformiadau proffesiynol. Trwy gydol y cwrs, maent yn meithrin sgiliau cyfathrebu, meddwl beirniadol, rheoli amser a gweithio’n effeithiol mewn grŵp. Mae’r broses asesu yn annog myfyrio a hunanasesu, gan roi cyfle i ddisgyblion ddangos creadigrwydd a dealltwriaeth o’r theatr fel ffurf gelfyddydol a chymdeithasol.
Trwy astudio’r cwrs Lefel A, mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth fanwl o dechnegau perfformio, ymarferwyr theatr a dadansoddiad testun. Maent yn creu gwaith gwreiddiol, yn perfformio darnau cyfoes a chlasurol, ac yn ysgrifennu’n feirniadol am brosesau creadigol. Mae’r cwrs yn meithrin sgiliau uwch mewn arweinyddiaeth, myfyrio, ymchwilio a chyflwyno, gan baratoi disgyblion ar gyfer addysg uwch neu yrfaoedd creadigol. Mae’r gwaith yn annog archwilio syniadau cymdeithasol a diwylliannol trwy gyfrwng y theatr, gan feithrin ymwybyddiaeth o’r byd o’u cwmpas.
Dylunio a Thechnoleg
Yn yr adran Dylunio a Thechnoleg i flynyddoedd 7-9, mae disgyblion yn archwilio ystod eang o ddeunyddiau, offer a thechnegau, gan gynnwys gwaith coed, metel, plastigau a thecstilau. Maent yn dysgu sgiliau dylunio, creu, cyfathrebu syniadau a gwerthuso cynhyrchion, gan feithrin hyder mewn meddwl creadigol ac arloesol.
Yn ystod y cwrs TGAU, mae disgyblion yn datblygu gwybodaeth fanwl am egwyddorion dylunio a chreu, gan gynnwys technolegau newydd, deunyddiau craff, a chynaliadwyedd. Maent yn cwblhau tasg dylunio a chreu manwl, gan ddangos eu gallu i greu prototeipiau ymarferol a gwerthuso eu heffeithiolrwydd.
Mae’r cwrs Lefel A yn adeiladu ar sgiliau TGAU, gan roi cyfle i ddisgyblion arbenigo mewn un o dair prif feysydd: dylunio cynnyrch, dylunio peirianneg, neu ffasiwn a thecstilau. Maent yn datblygu dealltwriaeth fanwl o brosesau diwydiannol, rheoli prosiectau, a dylunio ar gyfer defnyddwyr go iawn, gan baratoi ar gyfer addysg bellach neu yrfa yn y diwydiannau creadigol a pheirianyddol.