Cyfadran Dyniaethau
Daearyddiaeth
Ym mlwyddyn 7-9, mae disgyblion yn archwilio eu cynefin lleol, arfordiroedd Cymru, a pheryglon naturiol fel llifogydd a phandemigau. Maent yn datblygu sgiliau ymholi, mapio, braslunio, dadansoddi data a defnyddio GIS, gan feithrin chwilfrydedd a dealltwriaeth o’r berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd.
Yn y cwrs TGAU, mae disgyblion yn astudio afonydd, arfordiroedd, mudo, trefoli, tywydd, newid hinsawdd a datrysiadau cynaliadwy. Maent yn datblygu sgiliau maes, dadansoddi ystadegau, gwneud penderfyniadau, a gwerthuso tystiolaeth, gan baratoi ar gyfer bywyd, gwaith ac astudiaeth bellach.
Mae’r cwrs Safon Uwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o gylchredau dŵr a charbon, llywodraethu byd-eang, ecosystemau, tywydd eithafol, a datblygiad economaidd. Mae disgyblion yn cynnal ymchwiliad annibynnol, yn datblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi beirniadol, a chyflwyno tystiolaeth yn glir ac effeithiol.
Hanes
Mae disgyblion blwyddyn 7-9 yn archwilio ystod eang o bynciau hanesyddol gan gynnwys y Tuduriaid, y Chwyldro Diwydiannol, y Rhyfeloedd Byd, caethwasiaeth, y Titanic, a hanes lleol megis Castell Aberystwyth a’r Llyfrgell Genedlaethol. Trwy’r unedau hyn, maent yn datblygu sgiliau allweddol megis defnyddio ffynonellau, dehongli tystiolaeth, ysgrifennu’n hanesyddol, a myfyrio ar newid dros amser. Mae’r cwricwlwm yn meithrin chwilfrydedd, meddwl beirniadol a dealltwriaeth o’r gorffennol lleol a byd-eang.
Mae disgyblion TGAU yn astudio hanes Cymru a’r byd drwy unedau manwl ar gyfnodau fel Oes Elisabeth, y Dirwasgiad, Rwsia, yr Almaen, a’r Unol Daleithiau, yn ogystal ag uned thematig e.e. trosedd a chosb neu fudo. Maent yn datblygu sgiliau dadansoddi ffynonellau, dehongliadau hanesyddol, a chynnal ymchwiliad annibynnol. Mae’r cwrs yn annog meddwl beirniadol, trefnu gwybodaeth yn glir, a gwneud cysylltiadau rhwng cyfnodau.
Ar gwrs Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol, mae disgyblion yn cael y cynnig i astudiaeth fanwl o gyfnodau hanesyddol yng Nghymru, Prydain ac Ewrop, megis y Tuduriaid, y Rhyfel Cartref, y Chwyldro Ffrengig, a’r Almaen Natsïaidd. Mae disgyblion yn archwilio newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd dros amser, gan ddefnyddio ffynonellau a dehongliadau’n feirniadol. Maent hefyd yn cynnal ymchwiliad annibynnol, gan ddatblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi a chyfathrebu soffistigedig.