Croeso’r Pennaeth

Ysgol Penweddig

Croeso cynnes i wefan Penweddig sy’n rhoi rhagflas o’r hyn sydd gennym ni, Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig i’w gynnig. Mae’r ysgol yn gymuned Gymreig a chynhwysol sy’n sicrhau bod ein disgyblion yn datblygu’n ddinasyddion cyfrifol a gweithredol sy’n barod i hybu ein nodau sef Cymreictod, Parch ac Ymdrech.

Magwn ymwybyddiaeth ddisgyblion o ddiwylliant, iaith a hanes eu hardal a’u gwlad. Ceisiwn ymestyn eu gorwelion i weld cyfleoedd byd-eang a magwn uchelgais ym mhob aelod o gymuned yr ysgol – disgwylir iddynt anelu’n uchel a gweithio’n gyson tuag at y nod er mwyn datblygu a llwyddo.

Y Gymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a chyfrwng y rhan fwyaf o’r gwersi. Mae cynnal Cymreictod o fewn yr ysgol, y gymuned leol a thu hwnt yn rhan ganolog o waith yr ysgol. Gweithiwn i gefnogi pob disgybl wrth iddynt anelu at y safonau uchaf o gyrhaeddiad academaidd, creadigol, diwylliannol a galwedigaethol. Cefnogwn ddatblygiad moesol, ysbrydol a chorfforol ein disgyblion ac anogwn ddisgyblion Penweddig i gyfrannu at eu cymunedau tu allan i’r ysgol. Caiff pob disgybl gyfleoedd ardderchog i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer dyfodol llwyddiannus. Mae pob disgybl yn unigolyn gyda dyheadau a breuddwydion gwahanol – ein rôl ni yw eu cynorthwyo i wireddu’r rhain.

Ar y sylfeini cadarn hyn, paratoa’r ysgol ei phobl ifanc ar gyfer cymryd eu lle yn eu cymunedau boed y rheini yma yng Ngogledd Ceredigion neu ym mhendraw’r byd.

Gwyliwch y fideo i gael blas ar fywyd yr ysgol. Cynhyrchwyd y fideo gyda diolch i grant hael Cronfa Glyndŵr, mudiad sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg.

https://drive.google.com/file/d/1DKvu7SlEw8DosZQioegJJc7EWl9q5rhr/view?usp=sharing

Os hoffech ragor o fanylion neu os ydych am ymweld â’r ysgol, mae croeso i chi gysylltu gyda ni.

Clive Williams
Pennaeth

Dolenni Cyflym

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig