Anghenion Dysgu Ychwanegol ac yr Adran Gynnal
Anghenion Dysgu Ychwanegol
"Mae gan bawb eu dawn, ond mae’n blodeuo ar wahanol adegau.”
Mae Ysgol Penweddig yn gwerthfawrogi galluoedd, cyflawniadau a chyfraniadau ei holl ddisgyblion. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd hapus a gofalgar i bob disgybl, beth bynnag eu gallu, rhyw neu hil er mwyn iddynt ddatblygu i’w botensial llawn yn academaidd ac yn gymdeithasol. Rydym yn cydnabod bod continwwm o anghenion a bod gan blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yr hawl i fynediad at addysg eang a chytbwys a osodir gan y Cwricwlwm Cenedlaethol. Nod Ysgol Penweddig yw integreiddio pob disgybl i bob agwedd o fywyd yr ysgol.
Pecyn cymorth rhieni a gofalwyr : Anghenion dysgu ychwanegol: | LLYW.CYMRU
Ewch i’n tudalen Polisiau i ddarllen mwy am ADY yn Ysgol Penweddig.
Adran Gynnal
Arweinydd Adran
Cydlynnydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mrs Angharad Evans
Nodau ac Amcanion yr Adran
Nodau’r Adran Gynnal
Credwn mewn darparu pob cyfle posib i ddatblygu potensial llawn pob plentyn. Bydd gan bob plentyn yr hawl i gwricwlwm eang a chytbwys gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol a mynediad llawn i’r Cwricwlwm lle bo’n briodol. Caiff pob plentyn ei werthfawrogi a chaiff eu hunan-barch ei hybu. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â rhieni/gwarcheidwaid sy’n chwarae rhan weithredol a gwerthfawr yn addysg eu plentyn.
Amcanion yr Adran Gynnal
Amcanion ein hadran yw:
– Sicrhau bod ein pobl ifanc yn ganolog i’n prosesau yn Ysgol Penweddig.
– Nodi a monitro anghenion unigol pobl ifanc o’r cyfnod cynharaf posibl fel y gellir gwneud darpariaeth briodol a chodi eu cyrhaeddiad yn unol â’u gallu;
– Cynllunio cwricwlwm effeithiol i gwrdd ag anghenion ychwanegol ein disgyblion a sicrhau bod y targedau a osodir yn y Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU – system ADY newydd) yn benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, yn realistig ac yn berthnasol i amser;
– Cynllunio cwricwlwm effeithiol i gwrdd ag anghenion ychwanegol ein disgyblion a sicrhau bod y targedau a osodir yn y Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU – system ADY newydd) yn benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, yn realistig ac yn berthnasol i amser;
– Sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’n pobl ifanc yn ymwybodol o’r gweithdrefnau ar gyfer adnabod eu hanghenion yn ogystal â’r strategaethau ar gyfer eu cefnogi a’u haddysgu’n effeithiol;
– Gweithio mewn partneriaeth agos, lle bo’n briodol, ag asiantaethau allanol i gefnogi anghenion a darpariaeth ar gyfer pobl ifanc ag anghenion ychwanegol.
Proffiliau un Tudalen
Gall proffil un dudalen helpu gweithwyr proffesiynol i ddarparu gwell gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’n grynodeb syml o’r hyn sy’n bwysig i rywun a sut mae am gael ei gefnogi. Ar eich proffil gallwch gofnodi sut yr hoffech i bobl eich helpu, os a phryd y mae angen gofal a chymorth arnoch. Rydym yn defnyddio proffiliau un tudalen er mwyn sicrhau bod anghenion disgyblion yn cael eu cwrdd. Hefyd mae’n rhan o gefnogi llais y disgybl trwy gyfarfodydd person canolog a chreu Cynlluniau Datblygu Unigol.
Strwythur yr Adran Gynnal
Cyd-gysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Ysgol: Mrs Angharad Evans
Rydym yn ysgol Awtistic gyfeillgar ers Mehefin 2018. Mae’r gwobr ysgol cyfeillgar Awtistiaeth yn ddull ysgol gyfan i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion disgyblion awtistig.
Profiadau
Play unified gan ceredigion actif
Mae disgyblion ADY yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau chwaraeon trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys chwaraeon cadair olwyn a rygbi. Mae’r disgyblion hefyd yn cael cyfle i gymdeithasu gyda disgyblion o ysgolion o gwmpas y sir.
Mae sesiynau penodol ‘Play Unified’ cael eu trefnu ar gyfer disgyblion ADY yn wythnosol i ddatblygu sgiliau chwaraeon, profiadau chwaraeon a hyder disgyblion.
sgilliau bywyd
Mae’r cwrs sgiliau bywyd yn dilyn cynllun ASDAN. Mae’r cynllun ASDAN yn cynnig cymwysterau sy’n addas ar gyfer disgyblion ADY. Mae’r cwrs wedi cael ei deilwra i’r disgybl unigol gan ystyried dyheadau’r disgybl. Mae’r cwrs yn cynnwys yr isod:
Perthynas a Diwydiant
Cynllun Profiad Gwaith Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddisgyblion Blwyddyn 10 -13.
Mae cyfle i’r disgyblion dreulio cyfnod mewn sefyllfa gwaith fel rhan o Gwrs Sgiliau Bywyd Ysgol Penweddig. Mae’r disgyblion yn cael cyfle i ddysgu am drefn, disgyblaeth ac awyrgylch gwaith tu allan i’r ysgol a gobeithiwn y bydd hyn yn gymorth iddynt bontio’r rhwng byd ysgol a gwaith. Rydym yn ddiolchgar iawn fod cymaint o’r cyflogwyr lleol yn fodlon cydweithio â ni yn y dull yma.
Cafi cegin gynnes
Mae’r adran wedi datblygu caffi ar gyfer Staff yr ysgol. Mae’r disgyblion ADY yn cymryd archebion diodydd ac yn gweini’r diodydd. Mae’r disgyblion yn siopa am y nwyddau ar gyfer y caffi ac yn cadw cofnod o’r elw. Llwyddodd y disgyblion ADY i ennill cystadleuaeth genedlaethol ‘her tenner’ ar gyfer eu busnes yn 2022. Rydym yn falch o’u llwyddiant.
Gwaith Elusennol
Rydym wedi cynnal bore coffi i godi arian ar gyfer Ysbyty Bronglais fel rhan o gynllun sgiliau bywyd.
Ymweliadau
Fel rhan o’r cwrs mae’r disgyblion yn cael cyfle i fynychu llyfrgell y dref, llyfrgell Genedlaethol, archfarchnadoedd, siopau lleol, caffi, y traeth, y prom a’r dref er mwyn adeiladu ar sgiliau bywyd disgyblion. Hefyd, rydym yn annog disgyblion i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus megis bws a thrên. Rydym yn ceisio atgyfnerthu a hyrwyddo sgiliau gydol oes er mwyn hybu annibyniaeth yn y dyfodol.