Cyfadran Y Fagloriaeth, Busnes a Menter

Y Fagloriaeth

Mae’r Fagloriaeth yn cynnig cyfle unigryw i ddisgyblion ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd, gwaith ac astudiaeth bellach. Ar lefel TGAU (National/Foundation), mae disgyblion yn cwblhau prosiect unigol a dwy her: Menter a Chyflogadwyedd a Dinasyddiaeth Fyd-eang. Trwy’r rhain, maent yn datblygu sgiliau fel trefnu a chynllunio, meddwl yn feirniadol, datrys problemau, creadigrwydd ac effeithiolrwydd personol.

Ar lefel Safon Uwch (Advanced Skills Baccalaureate Wales), mae’r cymhwyster yn adeiladu ar y sgiliau hyn trwy dri phrosiect: Prosiect y Gymuned Fyd-eang, Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol, a Phrosiect Unigol. Mae’r cymwysterau hyn yn cefnogi disgyblion i ddod yn ddinasyddion gweithgar, creadigol ac ymwybodol, gan eu paratoi’n gadarn ar gyfer prifysgol, prentisiaethau neu gyflogaeth.

Busnes

Yn yr adran Fusnes, mae disgyblion yn archwilio sut mae busnesau’n gweithredu mewn byd dynamig, o fusnesau bach lleol i gwmnïau rhyngwladol. Ar lefel TGAU, maent yn datblygu dealltwriaeth o feysydd allweddol fel marchnata, cyllid, gweithrediadau, adnoddau dynol ac effaith ffactorau allanol ar fusnesau. Mae disgyblion yn dysgu sut i ddadansoddi gwybodaeth, gwneud penderfyniadau busnes a datrys problemau’n feirniadol.

Yn y Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol, mae’r astudiaeth yn mynd yn ddyfnach i strategaeth fusnes, dadansoddi perfformiad, rheoli newid a gweithredu mewn marchnadoedd byd-eang. Mae disgyblion yn datblygu sgiliau dadansoddi, gwerthuso, gwneud penderfyniadau a chyfathrebu – sgiliau trosglwyddadwy sy’n paratoi nhw ar gyfer addysg bellach neu fyd gwaith.

Technoleg Ddigidol

Wrth astudio Technoleg Ddigidol ym Mlynyddoedd 7–9, mae disgyblion yn datblygu sgiliau hanfodol mewn codio, modelu data, animeiddio, dylunio gemau a deallusrwydd artiffisial. Trwy brosiectau ymarferol a chreadigol, maent yn dysgu sut i ddefnyddio technoleg yn effeithiol, yn ddiogel ac yn foesegol. Mae’r cwricwlwm yn meithrin meddwl cyfrifiadurol, datrys problemau, cydweithio a chyfathrebu digidol – sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y dyfodol.

Ar gwrs TGAU Technoleg Ddigidol, mae disgyblion yn adeiladu ar y sgiliau hyn trwy archwilio systemau digidol, dadansoddi data, creu cynnyrch digidol a chynllunio ymgyrchoedd marchnata ar-lein. Mae’r cymhwyster yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol ag asesiadau ymarferol, gan baratoi disgyblion ar gyfer byd gwaith modern neu astudiaeth bellach mewn technoleg.