Dyddiadau’r Tymor a’r Diwrnod Ysgol
Tymhorau a Gwyliau
Mae’r flwyddyn ysgol yn rhedeg o 1af Medi y flwyddyn gyfredol i 31ain Awst y flwyddyn ddilynol ac mae’n cynnwys tri thymor. Mae dyddiad dechrau a diwedd y tymhorau ysgol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond, yn fras, dyma nhw:
- Tymor yr Hydref – Medi i Ragfyr
- Tymor y Gwanwyn – Ionawr i Fawrth / Ebrill (yn dibynnu ar ddyddiad y Pasg)
- Tymor yr Haf – Ebrill i Orffennaf
Noder fod y calendr hwn yn amodol ar unrhyw newidiadau all ddeillio o benderfyniadau polisi’r llywodraeth. Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golledion a ddaw yn sgil y math yma o newid i’r trefniadau gwyliau.
Dyddiadau Gwyliau Ysgol 2025/26
| Tymor | Dechrau | Diwedd | |
|---|---|---|---|
| Hydref 2025 | Dydd Mercher 3 Medi 2025 | Hanner Tymor Dydd Llun 27 Hydref 2025 – Dydd Gwener 31 Hydref 2025 | Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2025 |
| Gwanwyn 2026 | Dydd Llun 5 Ionawr 2026 | Hanner Tymor Dydd Llun 16 Chwefror 2026 – Dydd Gwener 20 Chwefror 2026 | Dydd Gwener 27 Mawrth 2026 |
| Haf 2026 | Dydd Llun 13 Ebrill 2026 | Hanner Tymor Dydd Llun 25 Mai 2026 – Dydd Gwener 29 Mai 2026 | Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2026 |
Mae ein hysgol yn dilyn dyddiadau tymor swyddogol Cyngor Sir Ceredigion. Gweler gwefan Cyngor Sir Ceredigion am wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan y cyngor yma.
Diwrnod Ysgol
Amserlen dysgu ffurfiol ac egwyl yn ein hysgol.
| 8:50-8:55 | Cofrestru Byr – 5 munud yn y wers gyntaf / cyhoeddiadau |
| 8:55-9:55 | Gwers 1 |
| 9:55-10:55 | Gwers 2 |
| 10:55-11:15 | Egwyl bore (cloch rhybudd am 11:10) |
| 11:15-12:15 | Gwers 3 |
| 12:15-1:15 | Gwers 4 |
| 1:15-2:05 | Cinio (cloch rhybudd am 2:00) |
| 2:05-2:30 | Cofrestru prynhawn / Gwasanaeth |
| 2:30-3:30 | Gwers 5 |
| 03:30 | Diwedd y diwrnod ysgol |